01 January 2025
Raised out of £ 1000.00 target
Mae gan Cyngor Ysgolion Sul 5 gwefan y mae'n gyfrifol amdani sy'n cefnogi gwaith cenhadaeth a gweinidogaeth Gristnogol yng Nghymru.
I ddatblygu'r gwefannau hyn rhaid wrth gefnogaeth ariannol.
beibl.net Testun y Beibl cyfoes beibl.net ynghyd â llawer o adnoddau cysylltiol eraill.
gair.cymru Gwefan sy’n cynnwys deunydd Cristnogol Cymraeg i’w lawr lwytho yn rhad ac am ddim, gan gynnwys gwersi ysgol Sul, gwasanaethau ar gyfer cynnal oedfaon, gweddïau a myfyrdodau, ffilmiau, cyflwyniadau PowerPoint, deunydd defosiwn dyddiol, gwasanaethau ar gyfer ysgolion a sgyrsiau plant.
cristnogaeth.cymru Gwefan gyffredinol sy’n ffynhonnell gwybodaeth am bopeth ac unrhyw beth yn ymwneud â Christnogaeth yng Nghymru.
gobaith.cymru Gwefan sy’n cynnwys dros fil o emynau a chaneuon Cristnogol cyfoes ar ffurf geiriau yn unig ac fel ffeiliau Powerpoint y mae modd eu lawr lwytho yn rhad ac am ddim.
ysgolsul.com Gwefan swyddogol y Cyngor, sy’n cynnwys gwybodaeth a newyddion am ein gwaith.
Sefydlwyd y Cyngor Ysgolion Sul yn 1966, a hynny gan 5 enwad Cristnogol Cymraeg sef Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Undeb Bedyddwyr Cymru, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Yr Eglwys Fethodistaidd a’r Eglwys yng Nghymru. Y pum enwad hyn sy’n dal i reoli’r gwaith trwy rwydwaith o bwyllgorau. Fe’i sefydlwyd er mwyn hyrwyddo gwaith ysgolion Sul ac addysg Gristnogol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Datblygwyd y weledigaeth ymhellach yn 1992 trwy sefydlu Cyhoeddiadau’r Gair, sef cwmni cyhoeddi Cristnogol cydenwadol, sy’n cyhoeddi a hyrwyddo llyfrau Cristnogol Cymraeg. Mae’r Cyngor hefyd yn rhan o gwmni ‘Roots for Churches’ sy’n cyhoeddi adnoddau addoli, ac yn sicrhau bod deunydd Cymraeg ar gael fel rhan o’r arlwy ar y wefan www.rootsontheweb.com
Ar hyn o bryd mae 3 panel yn weithredol, sef:
Panel datblygu adnoddau gweinidogaeth
Panel datblygu adnoddau cenhadaeth
Panel hybu, hyfforddi a hyrwyddo
Registered Charity No.525766